Senedd Cymru

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig          

Welsh Parliament

Economy, Trade, and Rural Affairs Committee

Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd

UK-New Zealand Free Trade Agreement

NZFTA- 03

Ymateb gan: Beef and Lamb New Zealand Ltd, Meat Industry Association

Evidence from: Beef and Lamb New Zealand Ltd, Meat Industry Association

 

Cyflwyniad ar y Cyd

 

 

I:

Senedd Cymru - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

 

YNGHYLCH:

Galwad am Gyflwyniadau - Cytundeb Masnach Rydd (CMR) y DU-Seland Newydd

 

GAN:

 

Beef + Lamb New Zealand Ltd

 

a

 

Meat Industry Association Inc

 

 

25 Ebrill 2022


 

Rhagarweiniad

1.              Mae hwn yn gyflwyniad ar y cyd gan Beef + Lamb New Zealand Ltd (B+LNZ) a’r Meat Industry Association Inc (MIA) sy’n cynrychioli safbwyntiau sector cig dafad a chig eidion Seland Newydd (h.y., cynhyrchwyr, proseswyr, marchnatwyr, ac allforwyr).

2.              Rydym yn diolch i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am y cyfle i wneud cyflwyniad i ateb eu Galwad am Dystiolaeth ynglŷn â CMR y DU-Seland Newydd. Mae ein cyflwyniad yn amlinellu effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y Cytundeb sy’n berthnasol i Seland Newydd a Chymru.

3.              Mae sector cig dafad a chig eidion Seland Newydd yn gynhyrchiol, yn arloesol, yn ychwanegu at werth, ac yn gyfrannwr mawr at economi Seland Newydd. Fel sector sy’n canolbwyntio ar allforio, mae’r sector yn dibynnu ar fynediad agored, cyson a rhagweladwy i amrywiaeth eang o farchnadoedd sy’n golygu bod angen rheolau masnachu cadarn a gorfodadwy. Mae cytundebau masnach rydd (CMR) yn chwarae rhan bwysig drwy wella a chryfhau saernïaeth masnach. Mae’r sector yn gefnogol tuag at bolisi Llywodraeth Seland Newydd i chwilio am CMRau uchelgeisiol, cynhwysfawr o ansawdd da.  

4.              Dim ond i raddau cyfyngedig y bydd y fasnach a hwylusir gan y CMR mewn cynhyrchion amaethyddol yn gallu effeithio ar gynnal economi Cymru yn gyffredinol, a’r sector amaethyddol yn benodol. Mae Seland Newydd a’r DU wedi bod yn masnachu cynhyrchion amaethyddol ers dros 140 mlynedd, a chig coch ers 1882. Mae’r berthynas hir hon yn golygu bod y fframwaith rheoleiddio a gofynion y farchnad wedi datblygu gyda’i gilydd.

5.              Mae’r DU a Seland Newydd yn rhannu llawer o werthoedd o ran ansawdd systemau cynhyrchu, a safonau uchel tebyg ar gyfer diogelwch bwyd, lles anifeiliaid, yr amgylchedd a llafur. Ceir synergeddau clir o ymgysylltu’n ddyfnach ar y materion rheoleiddio a pholisi hynny fel rhan o’r Cytundeb, yn ogystal â rhannu profiadau ym mhroses diwygio amaethyddol ac integreiddio mewn marchnadoedd byd-eang. Bydd hyn yn rhoi marchnadoedd a diwydiant y DU mewn sefyllfa i fod yn fwy llwyddiannus gartref a thramor. 

Crynodeb Gweithredol

 

6.              Mae sector cig dafad a chig eidion Seland Newydd yn gynhyrchiol, yn arloesol, yn ychwanegu at werth, ac yn gyfrannwr mawr at economi Seland Newydd. Fel sector sy’n canolbwyntio ar allforio, mae’r sector yn dibynnu ar fynediad agored, cyson a rhagweladwy i amrywiaeth eang o farchnadoedd sy’n golygu bod angen rheolau masnachu cadarn a gorfodadwy. Mae cytundebau masnach rydd (CMR) yn chwarae rhan bwysig drwy wella a chryfhau saernïaeth masnach. Mae’r sector yn gefnogol tuag at bolisi Llywodraeth Seland Newydd i chwilio am CMRau uchelgeisiol, cynhwysfawr o ansawdd da.  

7.              Mae’r sector yn gadarn o blaid cadarnhau Cytundeb Masnach Rydd y Deyrnas Unedig-Seland Newydd (y Cytundeb), a’i roi ar waith, cyn gynted â phosibl. Mae’r cyd-destun byd-eang presennol wedi tanlinellu arwyddocâd perthynas economaidd gref rhwng cynghreiriaid ac wedi dangos rôl bwysig marchnadoedd agored a masnach ragweladwy wrth frwydro yn erbyn diffyg diogeledd bwyd.  

8.              Yn unol â mandad negodi Llywodraeth y DU, mae’r Cytundeb wedi llwyddo i ystwytho tariffau yn gyffredinol ond mewn modd sy’n ystyried sensitifrwydd cynhyrchion y DU a Chymru, yn enwedig ym maes amaethyddiaeth.

9.              Mae’r DU a Seland Newydd yn rhannu llawer o werthoedd o ran ansawdd systemau cynhyrchu, a safonau uchel tebyg ar gyfer diogelwch bwyd, lles anifeiliaid, yr amgylchedd a llafur. Ceir synergeddau clir o ymgysylltu’n ddyfnach ar y materion rheoleiddio a pholisi hynny fel rhan o’r Cytundeb, yn ogystal â rhannu profiadau ym mhroses diwygio amaethyddol ac integreiddio mewn marchnadoedd byd-eang. Bydd hyn yn rhoi marchnadoedd a diwydiant y DU mewn sefyllfa i fod yn fwy llwyddiannus gartref a thramor. 


10.           

Cwestiynau’r ymgynghoriad

 

Sut bydd y Cytundeb hwn yn effeithio arnoch chi, eich busnes neu eich sefydliad?

 

11.          Mae CMR y DU-SN yn cynrychioli cyfle i wella’r berthynas hirsefydlog rhwng y DU a Seland Newydd. Ers dros 150 mlynedd, mae Seland Newydd wedi bod yn ffynhonnell o gynhyrchion amaethyddol y gall defnyddwyr Prydain ddibynnu arni. Rydym yn rhannu treftadaeth a systemau ffermio bugeiliol, ac mae hyn yn darparu cyfleoedd i gydweithio ym meysydd cynaliadwyedd, lles anifeiliaid a gwella cynhyrchiant cig dafad a chig eidion. Mae’r CMR yn cydnabod hyn ac yn sefydlu gweithgorau dwyochrog ar lefel llywodraeth.

12.          Mae sector cig coch Seland Newydd (‘y sector’) yn cael ei arwain gan allforio. Mae’r sector yn dibynnu ar fynediad agored, cyson a rhagweladwy i amrywiaeth eang o farchnadoedd. Mae marchnadoedd a chynhyrchion wedi amrywio’n sylweddol dros y degawdau, ac erbyn hyn mae Seland Newydd yn allforio amrywiaeth eang o gig coch a chyd-gynhyrchion i dros 110 o farchnadoedd ledled y byd. Mae’r strategaeth hon yn caniatáu i’n cwmnïau ymateb i signalau’r farchnad, ceisio sicrhau’r elw mwyaf am ein cynhyrchion a darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddwyr ledled y byd.

13.          Mae gwella mynediad i farchnad y DU wedi bod yn flaenoriaeth strategol i’r sector oherwydd ansawdd da’r farchnad a’i gwerth uchel. Rydym yn croesawu’r mynediad gwell yn unol â’r CMR, yn enwedig ar gyfer cig eidion, a fydd yn caniatáu i’n hallforwyr adeiladu perthynas gryfach ag adwerthwyr a’r gwasanaeth bwyd.

14.          Ar hyn o bryd, mae Seland Newydd yn gyfrifol am 0.3 y cant o fewnforion cig eidion y Deyrnas Unedig (735 tunnell o gyfanswm o 241,910 tunnell yn 2021). Mae defnyddwyr Prydain yn mynnu cynnyrch â safonau uchel o ran yr amgylchedd a lles anifeiliaid, ac rydym o’r farn y bydd cig eidion Seland Newydd yn cystadlu â chig eidion sy’n cael ei fewnforio o wledydd na allant ddangos eu bod yn bodloni’r disgwyliadau hyn, yn hytrach na chig eidion sydd wedi’i gynhyrchu yng Nghymru er enghraifft.

15.          Mae cyfyngiadau amgylcheddol yn cyfyngu ar gynhyrchu cig eidion yn Seland Newydd, fel cig dafad, ac mae’n annhebygol y bydd cynhyrchiant yn cynyddu. Rydym yn disgwyl i allforion i’r DU gynyddu oherwydd y gwell mynediad drwy’r CMR, ond bydd y galw am gig eidion yng 109 marchnad allforio arall Seland Newydd yn tymheru hyn.

 

Beth yw effaith debygol y cytundeb ar yr economi ac ar sectorau penodol yng Nghymru?

16.          Ym mhrofiad Seland Newydd, mae agor sectorau amaethyddol, hyd yn oed rhai a gafodd eu hamddiffyn yn gryf yn y gorffennol, wedi cynhyrchu manteision domestig sylweddol, gan gynnwys gwella cynhyrchedd, cynhyrchu’n fwy cynaliadwy, mwy o gystadleurwydd ac arloesi rhyngwladol, mwy o elw am allforion, a gwell safonau byw i ffermwyr a chymunedau ffermio.  Er enghraifft: 

·     Mae cynhyrchwyr Seland Newydd wedi mwynhau enillion cynhyrchedd sylweddol ar ffermydd o ganlyniad i well geneteg, gwell canrannau wyna, a rheoli porfeydd yn well.  Mae ffermwyr yn cynhyrchu mwy o stoc ‘addas i’r diben’ sy’n rhoi darnau o gig o’r ansawdd sydd ei eisiau ar y farchnad.    

·     Mae cynhyrchedd mewn gweithfeydd prosesu cig hefyd wedi gwella’n sylweddol, drwy welliannau technolegol megis technoleg synhwyro a thechnoleg robotig. Yn ogystal â manteision cynhyrchedd uniongyrchol, mae hyn hefyd yn cynhyrchu manteision iechyd a diogelwch ac yn lleihau’r risg o halogi yn sylweddol, sy’n gwella oes silff y cynnyrch.    

·     O ganlyniad i ddatblygiadau o ran hylendid, pecynnu, cyflwyno, trin a dosbarthu, mae’r cymysgedd o gynhyrchion i’w hallforio wedi datblygu o garcasau cyfan wedi’u rhewi i ddarnau o gig a chynhyrchion heb esgyrn sydd wedi’u rhewi a’u hoeri ac wedi’u pecynnu’n barod. Digwyddodd y newid i’r cymysgedd o gynhyrchion oherwydd yr angen i ymateb yn well i newidiadau i ofynion cwsmeriaid a marchnadoedd mewn marchnadoedd byd-eang. Mae hyn hefyd yn caniatáu i ni ddefnyddio pob carcas i’r eithaf drwy ganfod y farchnad sy’n rhoi’r elw gorau am bob darn o’r carcas. Mae hefyd yn gwella hyblygrwydd y cyflenwad gan y gellir cyflenwi pob cynnyrch i ystod eang o gwsmeriaid gan sicrhau bod yr holl gynnyrch yn bodloni’r safonau cynhyrchu uchaf sy’n ofynnol yn rhyngwladol. 

·     Mae sector allforio cadarn a llwyddiannus yn creu swyddi, gan gynnwys mewn lleoliadau gwledig a rhanbarthol. Yn Seland Newydd, mae’r sector cig coch yn gyfrifol am 4.7 y cant o gyflogaeth yn genedlaethol ac yn rhai rhannau o Seland Newydd wledig, mae’r sector yn gyfrifol am 10 i 12 y cant o gyflogaeth yn rhanbarthol. 

 

Sut mae darpariaethau’r Cytundeb ar fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol yn debygol o effeithio ar y sector amaethyddiaeth a bwyd yng Nghymru?

 

Ymateb i bryderon ffermwyr Cymru

17.          Er ein bod yn deall bod ffermwyr Cymru yn pryderu am effaith y CMR o ran cynyddu mewnforion o Seland Newydd, rydym o’r farn bod y pryderon hyn yn ddi-sail. Ers 1882 mae sector cig dafad a chig eidion Seland Newydd wedi ei brofi ei hun fel cynhyrchwr a masnachwr cyfrifol i farchnad y DU. O ran cig dafad, mae Seland Newydd wedi cael mynediad sylweddol drwy Gwota Tariff Penodol i Wlad ers sefydlu Sefydliad Masnach y Byd yn 1995, ond mae allforion i’r DU wedi ymateb i ddynameg y farchnad ac i’r galw gan ddefnyddwyr. O ganlyniad, nid yw’r cwota wedi cael ei ddefnyddio’n llawn ac mae’r rhan fwyaf o’n cig dafad yn mynd i Tsieina a’r Unol Daleithiau. Mae’r cynnydd yn y galw am gig dafad yn y marchnadoedd hyn yn golygu bod disgwyl i’r duedd hon barhau.

18.          Fel sector a arweinir gan allforio, mae cig dafad a chig eidion Seland Newydd yn cael ei allforio i bron 110 marchnad ledled y byd ac mae ein strategaeth amrywiaeth yn gonglfaen i’n polisi masnach. Nid yw’n fuddiol i’r sector i ddibynnu’n ormodol ar unrhyw un farchnad. Gwnaethpwyd y newid pwysig hwn i strategaeth allforio’r sector fel ymateb i’n profiad yn yr 1970au o golli marchnad bwysig y DU wedi iddynt ymuno â’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Hefyd, byddai “boddi” marchnad â chynnyrch yn cael effaith anffafriol ar brisiau, ac enillion, i bawb. Yn syml, ni fyddai o fudd i ni. 

19.          Pryder arall a godwyd gan ffermwyr y DU yw’r posibilrwydd y gallai cynhyrchiant Seland Newydd gynyddu’n ddramatig. Fodd bynnag, wrth i bwysau gynyddu ar ddiwydiannau ffermio a phrosesu Seland Newydd, ni all y sector gynhyrchu llawer mwy o gynnyrch. Mae polisïau amgylcheddol, twf y boblogaeth, newid i’r defnydd o dir, a phrinderau llafur yn cyfyngu ar allu’r sector i dyfu. Felly, strategaeth y sector ar hyn o bryd, ac i’r dyfodol, yw arloesi, ansawdd, ychwanegu gwerth, a lleoli cystal â phosibl.  

20.          Mae’r sector hefyd wedi clywed pryderon y bydd Seland Newydd yn mewnforio “cynnyrch rhad wedi’i gymorthdalu” gan danseilio cynnyrch sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol. Fodd bynnag, mae gan Seland Newydd un o’r lefelau isaf o gymorthdaliadau amaethyddol yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac maent wedi cefnogi ystwytho masnach a lleihau cymorthdaliadau sy’n ystumio masnach ers amser maith.

21.          O ganlyniad, mae gennym sector amaethyddol gwydn, arloesol â ffocws masnachol sy’n gallu ymateb i ofynion y farchnad. Mae gennym ffocws arbennig ar leihau cymorthdaliadau sy’n niweidiol i’r amgylchedd, megis rhai ar gyfer tanwyddau ffosil a rhai sy’n annog cynhyrchiant amaethyddol ag effeithiau amgylcheddol negyddol.

22.          Mae cyflenwoldeb tymhorol cynhyrchiant cig oen Seland Newydd sydd wedi’i fwydo ar laswellt a chynhyrchion y DU yn caniatáu i ddefnyddwyr Prydain gael cynnyrch “gorau’r tymor” drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn beth da i’r categori cig oen. Mae’n well gan ddefnyddwyr allu cael gafael ar gynnyrch drwy gydol y flwyddyn. Os nad yw ar gael drwy gydol y flwyddyn, gall y galw cyffredinol ostwng. Mae cyflenwoldeb yn helpu i gynnal sefydlogrwydd y farchnad, yn cefnogi lefelau prisiau, ac yn cadw cig oen fel categori cynnyrch ar silffoedd archfarchnadoedd. Mae hyn o fudd i gynhyrchwyr yn y DU ac yn Seland Newydd. Mae’r cyflenwoldeb tymhorol hwn rhwng y DU a Seland Newydd hefyd yn cynhyrchu cyfleoedd i gyflenwi a marchnata ar y cyd ym marchnadoedd Tsieina a’r Unol Daleithiau, sy’n ehangu’n gyflym. Mae cyflenwad cig dafad y byd yn gyfyngedig, ac mae’r galw rhyngwladol am brotein maethlon o ansawdd da ar gynnydd. Mae cydweithio i sicrhau bod cig oen a chig dafad sydd wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy ar gael i gwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn yn cyflwyno cyfleoedd i gynhyrchwyr hemisfferau’r gogledd a’r de gydweithredu â’i gilydd.

 

Diogelu safonau cynhyrchu uchel

 

23.          Un o amcanion negodi sylfaenol Llywodraeth y DU oedd sicrhau safonau uchel a diogelwch i ddefnyddwyr a gweithwyr y DU ac adeiladu ar ymrwymiadau rhyngwladol presennol, gan gynnwys peidio â chyfaddawdu o ran safonau uchel ar gyfer diogelu’r amgylchedd, lles anifeiliaid, a diogelwch bwyd. Roeddem yn cefnogi’r amcan negodi hwn, ac rydym yn credu ei fod wedi’i gyflawni o dan y Cytundeb.  

24.          Caiff Seland Newydd ei chydnabod yn un o arweinwyr y byd o ran safonau hylendid ein diwydiant a’n systemau rheoleiddio. Mae hyn yn ein galluogi i gael mynediad i farchnadoedd ledled y byd a chynnal safle premiwm byd-eang. Mae’r sector yn un o’r diwydiannau â’r rheoleiddio trymaf o ran diogelwch bwyd; mae goruchwyliaeth reoleiddio barhaus yn rhoi sicrwydd i’r llywodraeth. Mae Deddf Cynhyrchion Anifeiliaid 1999, sef deddfwriaeth sylfaenol y diwydiant prosesu cig, yn seiliedig ar egwyddorion a dderbynnir y dylai’r system fod yn seiliedig ar risg gan ganolbwyntio ar ganlyniadau. Mae hyn yn gyson â’r egwyddorion a dderbynnir yn rhyngwladol yn Sefydliad Masnach y Byd, OIE, a Codex. Mae hefyd yn galluogi Seland Newydd i negodi cytundebau cyfwerthedd â phartneriaid masnach sy’n pontio gofynion gwahanol wledydd gan sicrhau y bodlonir canlyniadau rheoleiddio dymunol Seland Newydd a hefyd y wlad sy’n mewnforio – fel yr ydym yn wir wedi’i wneud gyda’r DU drwy gyfrwng y Cytundeb ar Fesurau Iechydol sy’n Berthnasol i Fasnachu mewn Anifeiliaid Byw a Chynhyrchion Anifeiliaid yn 2019.

25.          Mae Seland Newydd hefyd yn gyson yn cael rhai o’r sgorau gorau am safonau rheoleiddio ymarfer yn y byd o ran materion moesegol megis lles anifeiliaid a chigydda halal.    

26.          Mae’r sector yn croesawu cynnwys pennod annibynnol ar les anifeiliaid yn y Cytundeb, sy’n cydnabod, er bod arferion cynhyrchu Seland Newydd a’r DU yn wahanol, bod y ddwy wlad yn rhoi blaenoriaeth uchel i les anifeiliaid yn yr arferion hynny, a’u bod yn gymaradwy o ran canlyniadau a diogelu lles. Mae’r sector o blaid cydweithio agosach rhwng y DU a Seland Newydd yn y maes hwn, yn enwedig mewn fforymau rhyngwladol, i hybu datblygiad safonau lles anifeiliaid â sail wyddonol. Gyda’i gilydd, bydd y DU a Seland Newydd yn cyflwyno llais mwy pwerus ac unedig yn rhyngwladol am faterion sy’n destun pryder i’r ddwy wlad, megis lles anifeiliaid mewn trydydd marchnadoedd.  

27.          Mae Seland Newydd yn esiampl ragorol ac yn bartner perffaith i helpu i gyfrannu at agenda sero net y DU. Mae ffermwyr cig dafad a chig eidion Seland Newydd yn gweithredu o fewn cyfyngiadau amgylcheddol, yn cyfrannu at fioamrywiaeth, ac yn gwarchod fflora a ffawna brodorol. Mae oddeutu 24 y cant o gyfanswm gorchudd llystyfiant brodorol Seland Newydd, gan gynnwys glaswelltiroedd brodorol a choedwigoedd, ar ein ffermydd cig dafad a chig eidion. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o gynhyrchu cig dafad a chig eidion yn Seland Newydd wedi gostwng 30 y cant ers 1990 ac mae’r coed brodorol ac egsotig ar ein ffermydd yn gwrthbwyso cyfran sylweddol o weddill ein hallyriadau. Amcangyfrifir bod ôl troed carbon Seland Newydd ar gyfer cynhyrchu cig dafad a chig eidion (Dadansoddiad Cylchred Oes ar y fferm) oddeutu hanner y ffigur cyfartalog yn fyd-eang. 

28.          Mae Seland Newydd wedi cytuno i ostwng allyriadau 30 y cant yn is na lefelau 2005 erbyn 2030. Mae’r Ddeddf Ymateb i Newid Hinsawdd (Di-Garbon) yn amlinellu llwybr Seland Newydd at ddyfodol sy’n wydn o ran hinsawdd, ag allyriadau isel, gan osod targedau penodol i ostwng allyriadau carbon deuocsid, ocsid nitrus, methan. Yn unol â’r ddeddfwriaeth hon, bydd Llywodraeth Seland Newydd yn prisio allyriadau amaethyddol erbyn 2025. Mae’r sector yn cydnabod ein rôl o ran unioni newid hinsawdd ac rydym wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2050 ac eisoes yn defnyddio rhai o arferion gorau’r byd. Er enghraifft, mae’r gyfraith yn mynnu bod rhaid i bob ffermwr yn Seland Newydd ddeall allyriadau ei fferm erbyn 2022 ac erbyn 2025 bydd angen cynllun i reoli’r allyriadau hyn yn unol â thargedau llywodraeth Seland Newydd i ostwng nwyon tŷ gwydr. Rydym ar y trywydd iawn i fodloni’r gofynion hyn ac mae’r sector cig coch yn cydweithio’n agos â phartneriaid y diwydiant, y Māori a’r llywodraeth (Gweinyddiaethau’r Amgylchedd a Diwydiannau Sylfaenol) i sefydlu cynllun i brisio allyriadau amaethyddol. Mae’r ymagwedd hon yn arwain y byd ac yn tynnu sylw at gyfle i ffermwyr Seland Newydd a Phrydain gydweithio ar ddatrysiadau i ddatrys problem fyd-eang newid hinsawdd.

29.          Mae’r sector (ffermwyr a phroseswyr) wedi ymrwymo i roi’r gorau i ddefnyddio glo erbyn 2037 a gallant gynnig gweledigaeth i ddiwydiant ffermio a chig y DU, sydd wedi’i nodi’n un o feysydd gwannaf strategaeth sero net Llywodraeth y DU. Mae llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd allyriadau sylweddol yn dal i fodoli yn y sector hwn erbyn 2050 ac y bydd angen gwneud iawn amdanynt drwy waredu nwyon tŷ gwydr â dulliau naturiol a pheirianyddol. 

30.          Mae’r sector hefyd yn gweld y Cytundeb fel cyfle i wella cydweithrediad a chydweithio yn y diwydiant ar faterion sy’n bwysig i’r naill ochr a’r llall, gan gynnwys sut gall ffermwyr cig eidion a chig dafad y DU a Seland Newydd weithio gyda’i gilydd i liniaru newid hinsawdd ac addasu iddo. Gallwn adeiladu ar berthnasoedd sy’n bodoli â’r sector cyfatebol yn y DU a Chymru i rannu profiadau a safbwyntiau i ddatblygu systemau cynhyrchu mwy effeithlon, proffidiol a chynaliadwy. Mae hyn eisoes yn dechrau yn y diwydiant defaid, lle mae’r Fforwm Cynhyrchwyr Defaid Byd-eang wedi’i sefydlu i gynyddu cydweithio, cydweithredu, a rhannu gwybodaeth ynghylch materion allweddol, ac mae diwydiant y DU yn cymryd rhan ynddo. Yn yr un modd, bu cydweithrediad yn y gorffennol i ddatblygu methodolegau i asesu effeithiau amgylcheddol cynhyrchu da byw. Er enghraifft, cydlynodd Seland Newydd ddatblygiad methodoleg fyd-eang ar gyfer ôl troed nwyon tŷ gwydr cig dafad at lefel gatiau ffermydd ar ôl fforwm cig dafad rhyngwladol a gynhaliwyd ym Mrwsel yn 2013. Ers hynny, mae’r Ysgrifenyddiaeth Gig Ryngwladol wedi mabwysiadu’r fethodoleg hon. Byddai digon o gyfle hefyd i gyfnewid syniadau am heriau a chyfleoedd o ran masnachu, megis gwirio ar ffermydd i fodloni gofynion mynediad i farchnadoedd tramor, a sut gall y sector weithio’n effeithiol gyda llywodraethau i lunio polisi masnach a chanfod cyfleoedd newydd.   Byddai CMR yn helpu i dyfu cysylltiadau o’r fath. 

Ynghylch Beef + Lamb New Zealand Ltd a’r Meat Industry Association Inc 

31.          B+LNZ yw’r sefydliad sy’n eiddo i ffermwyr sy’n cynrychioli ffermwyr cig dafad a chig eidion Seland Newydd. Hwn yw’r sefydliad â mandad cyfreithiol i siarad ar ran ffermwyr cig dafad a chig eidion Seland Newydd. Ariennir B+LNZ dan Ddeddf Ardollau Nwyddau 1990 drwy gyfrwng ardoll a delir gan gynhyrchwyr ar yr holl wartheg a defaid a laddir yn fasnachol yn Seland Newydd. Diben B+LNZ yw darparu safbwyntiau a gweithredoedd sy’n creu effaith wirioneddol i ffermwyr. 

32.          Mae B+LNZ yn cynrychioli tua 9000 o fusnesau ffermio masnachol, gan greu tua 35,000 o swyddi (taliadau, cyflogau a hunangyflogaeth) yn y sector cig dafad a chig eidion. Mae tua thri chwarter y tir bugeiliol ac ychydig o dan draean cyfanswm arwynebedd tir Seland Newydd yn cael ei ddefnyddio i ffermio cig dafad a chig eidion.  

33.          Mae’r MIA yn gymdeithas fasnach wirfoddol sy’n cynrychioli proseswyr, marchnatwyr ac allforwyr cig Seland Newydd. Mae’n Gymdeithas Gorfforedig (yn eiddo i’r aelodau) sy’n cynrychioli cwmnïau sy’n cyflenwi bron holl allforion cig dafad a chig eidion Seland Newydd.  

34.          Mae’r cwmnïau sy’n aelodau o’r MIA yn cynnal mwy na 60 o ladd-dai a gweithfeydd prosesu pellach gan gyflogi 25,000 o bobl ledled y wlad. Mae’r gweithfeydd yn lladd ac yn prosesu tua 22.8 miliwn o ddefaid a 4.7 miliwn o wartheg bob blwyddyn. Mae naw deg y cant o’r cynhyrchiant hwn yn cael ei brosesu i greu cynhyrchion sy’n ychwanegu gwerth. Mae dros filiwn o dunelli, neu 90 y cant o gyfanswm y cynhyrchiant, yn cael ei allforio i bron 110 o gyrchfannau tramor.  

35.          Mae’r MIA yn eirioli ar ran eu haelodau ac yn darparu cyngor am faterion economaidd, polisi masnach, mynediad i’r farchnad, cysylltiadau cyflogaeth, costau cydymffurfiad busnes a materion technegol a rheoleiddio sy’n wynebu’r diwydiant, â ffocws penodol ar: 

·                   Tueddiadau diogelwch bwyd a datblygiadau mewn gwledydd sy’n mewnforio. 

·                   Agweddau economaidd a masnachol ar fynediad i’r farchnad mewn marchnadoedd tramor allweddol. 

·                   Cynigion mawr ynghylch polisi cyhoeddus a allai effeithio ar weithrediadau’r diwydiant.